Alan Rickman
cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Hammersmith yn 1946 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Alan Sidney Patrick Rickman (21 Chwefror 1946 - 14 Ionawr 2016) yn actor Seisnig. Mae Rickman yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhannau Hans Gruber yn Die Hard ac fel Severus Snape yn y gyfres o ffilmiau Harry Potter. Mae ef hefyd yn enwog am ei rôl flaenllaw fel Siryf Nottingham yn ffilm lwyddiannus 1991, Robin Hood: Prince of Thieves ac yn fwy diweddar fel y Barnwr Turpin yn ffilm Tim Burton Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street.
Alan Rickman | |
---|---|
Ganwyd | Alan Sidney Patrick Rickman 21 Chwefror 1946 Hammersmith |
Bu farw | 14 Ionawr 2016 o canser y pancreas Llundain |
Man preswyl | Hammersmith |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, actor llais, actor cymeriad, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, dylunydd graffig, actor llwyfan, ysgrifennwr, actor, sgriptiwr, cyfarwyddwr theatr, cyfarwyddwr |
Arddull | comedi Shakespearaidd |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Priod | Rima Horton |
Gwobr/au | Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Rhan Gynhaliol, Gwobr Urdd Actorion Sgrin i Actor Gwrywaidd mewn Cyfres Bitw neu Ffilm Deledu, Gwobr James Joyce, Golden Globes, Primetime Emmy Award for Outstanding Lead Actor in a Miniseries or a Movie |
Gwefan | https://alanrickman.com |
Yn 1995 enillodd Wobr Emmy a Gwobr Screen Actors Guild am ei bortread o Rasputin: Dark Servant of Destiny. Enillodd wobr BAFTA Award am ei ran yn y ffilm Robin Hood.
Bu farw Rickman o ganser y pancreas ar 14 Ionawr 2016 yn 69 oed. Bydd ei ffilm olaf, yn lleisio cymeriad Absolem yn Alice Through the Looking Glass, yn cael ei lansio yn yr Unol Daleithiau ym Mai 2016.