Andalucía
un o gymunedau ymreolaethol Sbaen / From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o gymunedau ymreolaethol Sbaen, a'r mwyaf ohonynt o ran poblogaeth, yw Andalucía (hefyd Andalwsia). Fe'i lleolir yn ne'r wlad, yn ffinio â Phortiwgal i'r gorllewin. Saif y cymunedau ymreolaethol Extremadura, Castilla-La Mancha a Murcia i'r gogledd, Môr y Canoldir i'r de-ddwyrain a Chefnfor yr Iwerydd i'r de-orllewin.
Math | Cymunedau ymreolaethol Sbaen |
---|---|
Prifddinas | Sevilla |
Poblogaeth | 8,476,718, 8,476,718 |
Sefydlwyd | |
Anthem | La bandera blanca y verde |
Pennaeth llywodraeth | Juan Manuel Moreno |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Buenos Aires |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 87,268 km² |
Uwch y môr | 600 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Extremadura, Castilla-La Mancha, Murcia (cymuned ymreolaethol), Gibraltar |
Cyfesurynnau | 37.405°N 5.9875°W |
Cod post | AN |
ES-AN | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Consejo de Gobierno de la Junta de Andalucía |
Corff deddfwriaethol | Senedd Andalucía |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Llywydd Cynulliad Andalucía |
Pennaeth y Llywodraeth | Juan Manuel Moreno |
Daw'r gair "Andalucía" o'r Arabeg Al-Andalus. Bu'r rhan yma o Sbaen dan reolaeth y Mwslemiaid am gyfnod hirach nag unrhyw ran arall, o 711 hyd 1492. Mae'n cynnwys mynyddoedd uchaf Sbaen yn y Sierra Nevada, yn enwedig Mulhacén (3478 m.) a Veleta (3392 m.). Yr afon bwysicaf yw'r Guadalquivir.
Prif ddinasoedd Andalucía yw Sevilla, Málaga, Cádiz, Almería, Córdoba, Jaén, Huelva a Granada. Mae'n enwog am ddawns y flamenco ac am bensaernïaeth wych o'r cyfnod Islamaidd, yn enwedig yr Alhambra byd-enwog yn Granada.