Arlywydd y Traeth Ifori
From Wikipedia, the free encyclopedia
Pennaeth y wladwriaeth yn y Traeth Ifori yw Arlywydd y Traeth Ifori (Ffrangeg: Président de Côte d'Ivoire). Cynhelir etholiad cenedlaethol bob pum mlynedd i ddewis unigolyn i lenwi'r swydd.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | swydd |
---|---|
Math | arlywydd |
Rhan o | Cabinet y Traeth Ifori |
Deiliad presennol | Alassane Ouattara |
Gwladwriaeth | Y Traeth Ifori |
Cau
Sefydlwyd y swydd mewn egwyddor ar 7 Awst 1960, diwrnod annibyniaeth Gweriniaeth y Traeth Ifori oddi ar Ffrainc. Cyhoeddwyd cyfansoddiad newydd ar 3 Tachwedd y flwyddyn honno, gan sefydlu llywodraeth arlywyddol, a chynhaliwyd yr etholiad arlywyddol cyntaf ar 27 Tachwedd 1960.