Asterix
cyfres Ffrengig o lyfrau comics / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfres o stribedi comig ydy Anturiaethau Asterix (Ffrangeg: Astérix neu Astérix le Gaulois), a grewyd gan René Goscinny ac Albert Uderzo. Ymddangosodd y gyfres yn y cylchgrawn Ffrengig Pilote am y tro cyntaf ar 29 Hydref 1959. Mae 39 llyfr comig wedi cael eu cyhoeddi yn y gyfres hyd 2021.
Enghraifft o'r canlynol | cyfres o lyfrau comic |
---|---|
Awdur | René Goscinny, Albert Uderzo |
Cyhoeddwr | Dargaud |
Gwlad | Ffrainc |
Dechrau/Sefydlu | 1959 |
Dechreuwyd | 29 Hydref 1959 |
Genre | comics hanes amgen |
Cymeriadau | Asterix, Obelix, Dogmatix, Gwyddoniadix, Pwyllpendefix, Perganiedix, Geriatrix, Fulliautomatix, Panacea, Unhygienix, Anticlimax |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Lleoliad y gwaith | Gâl |
Gwefan | http://www.asterix.com, https://www.asterix.com/en/, https://www.asterix.com/de/, https://www.asterix.com/es/, https://www.asterix.com/nl/, https://www.asterix.com/pt-pt/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Gweler hefyd: Asterix (gwahaniaethu)
Mae'r cyfres yn dilyn hanesion pentref yng Ngâl hynafol, tra eu bod yn gwerthsefyll meddiannu'r wlad gan y Rhufeiniaid. Maent yn gwneud hyn drwy ddefnyddio cymysgedd hudol, sy'n cael ei fragu gan eu derwydd, sy'n rhoi cryfder goruwchddynol i'r un sy'n ei yfed. Asterix yw'r prif gymeriad, ynghyd a'i ffrind Obelix; maent yn cael amryw o anturiaethau sy'n eu harwain i deithio o amgylch nifer o wledydd y byd, ond mae sawl llyfr wedi eu seilio o amgylch eu pentref.
Asterix yw un o'r cyfresi comig Ffrengig-Belgaidd mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae wedi cael ei gyfieithu i dros 100 o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, ac mae'n fwyaf poblogaidd yng ngwledydd Ewrop. Mae Asterix yn llai adnabyddus yn yr Unol Daleithiau a Japan.
O ganlyniad i lwyddiant y gyfres mae nifer o'r llyfrau wedi'u haddasu'n ffilmiau: wyth wedi eu hanimeiddio, a thri gydag actorion byw. Mae hefyd nifer o gemau yn seiliedig ar y cymeriadau, ac mae'r parc thema Ffrengig, Parc Astérix, wedi ei seilio ar y gyfres.