Awyrlong
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awyren ysgafnach-nag-aer yw awyrlong neu long awyr sydd yn defnyddio balŵn llawn nwy i'w chodi i'r awyr a pheiriannau a llywiau i'w gyrru. Datblygwyd sawl ffurf ar yr awyrlong yn niwedd y 19g, gan adeiladu ar lwyddiant y balŵn aer cynnes i esgyn bodau dynol i'r awyr. Yn wahanol i'r balŵn syml, mae'r awyrlong yn llywiadwy ac yn gallu symud yn ei phwysau ei hunan, yn hytrach na dibynnu ar y gwynt. Mae modd ei sefyll yn llond yn yr awyr ac i'w gyrru yn gyflymach neu'n arafach na buanedd y gwynt.
Enghraifft o'r canlynol | aircraft class |
---|---|
Math | aerostat |
Dyddiad darganfod | 1852 |
Yn cynnwys | gondola |
Gweithredwr | Llynges yr Unol Daleithiau |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pedair prif ran sydd i'r awyrlong: bag hirgylch enfawr sydd yn cynnwys nwy, car oddi tan y bag nwy sydd yn cynnwys y teithwyr a'r criw, peiriannau a motorau i yrru'r propelorau, a llywiau llorweddol a fertigol i newid cyfeiriad. Fel arfer, hydrogen neu heliwm yw'r nwy sydd yn llenwi'r balŵn. Hydrogen yw'r nwy ysgafnach, ond mae'n hynod o ffrwydrol. Nid yw heliwm yn llosgi, ac felly mae'n llai peryglus na hydrogen o bell ffordd.
Tri math o awyrlong sydd: yr awyrlong hyblyg neu'r blimp, yr awyrlong led-anhyblyg, a'r awyrlong anhyblyg neu'r sepelin. Balŵn yn unig wedi ei gysylltu i'r car gyda cheblau yw awyrlong hyblyg. Os yw'r balŵn yn rhwygo a'r nwy yn dianc, byddai'n datchwyddo. Mae gan awyrlong led-anhyblyg fframwaith metel sydd yn cynnal y car ac wedi ei gysylltu ag amlen y balŵn. Os yw ffabrig y balŵn yn crebachu, byddai strwythur yr awyrlong yn dal i'w gynnal. Fframwaith o drawstiau metel ysgafn, gan amlaf alwminiwm, a orchuddir gan ffabrig sydd gan yr awyrlong anhyblyg. Y tu mewn i'r fframwaith hwn mae nifer o falwnau nwy a ellir eu llenwi a'u gwagio ar wahân i'w gilydd.