Blaenau Gwent (etholaeth seneddol)
etholaeth seneddol / From Wikipedia, the free encyclopedia
Etholaeth yn ne Cymru yw Blaenau Gwent, sy'n danfon cynrychiolydd i San Steffan. Yr Aelod Seneddol presennol yw Nick Smith (Llafur).
Etholaeth Sir | |
---|---|
Blaenau Gwent yn siroedd Cymru | |
Creu: | 1983 |
Math: | Tŷ'r Cyffredin |
AS presennol: | Nick Smith (Llafur) |
Cyfeirir yn aml at 'Flaenau Gwent' fel hen etholaeth Aneurin Bevan. Fodd bynnag, creuwyd yr etholaeth ym 1983, dair blynedd ar hugain wedi marwolaeth Bevan allan o'r rhan uchaf o hen etholaeth Abertyleri, tref Brynmawr o etholaeth Brycheiniog a Maeshyfed, a sedd Glyn Ebwy cyn sedd Bevan ac eithrio pentref Abertyswg. Cyn-arweinydd y Blaid Lafur Michael Foot, oedd Aelod Seneddol cyntaf yr etholaeth ym 1983.
Hyd at 2005 ystyrid yr etholaeth yn un o'r seddau Llafur mwyaf diogel yng ngwledydd Prydain ond bu anghydfod yn y Blaid Lafur leol ar ymddeoliad Llew Smith o'r Senedd. Penderfynodd y Blaid Lafur mai dim ond menywod oedd yn cael sefyll yn enw'r blaid ar gyfer y sedd. Ymddiswyddodd Aelod Cynulliad yr Etholaeth, Peter Law o'r Blaid Lafur fel protest yn erbyn y polisi menywod yn unig a safodd yn enw Llais Pobl Blaenau Gwent yn etholiad Cyffredinol 2005 gan gipio'r sedd a gwrthdroi mwyafrif o 60% i Lafur i 25% i Lais y Bobl.