Caerlŷr
dinas yn Swydd Gaerlŷr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yn Swydd Gaerlŷr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Caerlŷr (Saesneg: Leicester).[1] Saif ar Afon Soar. Hi yw tref sirol draddodiadol Swydd Gaerlŷr. Mae hi ar ymyl Fforest Genedlaethol Lloegr.
Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...
Arwyddair | Semper Eadem |
---|---|
Math | dinas, tref sirol, dinas fawr |
Ardal weinyddol | Dinas Caerlŷr, Swydd Gaerlŷr |
Poblogaeth | 464,395 |
Pennaeth llywodraeth | Peter Soulsby |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerlŷr (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 92 km² |
Uwch y môr | 67 metr |
Gerllaw | Afon Soar |
Cyfesurynnau | 52.6333°N 1.1333°W |
Cod post | LE1-LE67 |
Pennaeth y Llywodraeth | Peter Soulsby |
Cau
Poblogaeth y ddinas yn 2001 oedd 279,921.
Mae dwy brifysgol yn y ddinas, Prifysgol Caerlŷr (1957) a Prifysgol de Montfort (1992). Mae'r diwydiannau hosanwaith, esgidiau, argraffu, gweuwaith, electroneg, plastigau, prosesu bwyd, a pheirianneg o bwys hefyd.