Coridor Pwylaidd
llain o dir Pwylaidd rhwng y ddau Ryfel Byd yn rhoi agoriad i'r wladwriaeth newydd i'r môr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Coridor Pwylaidd (weithiau Coridor Gdansk neu Coridor Danzig (Almaeneg: Polnischer Korridor; Pwyleg: Korytarz gdański) yn llain o diriogaeth a sefydlwyd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yn sgîl Chytundeb Versailles ar 28 Mehefin 1919. Rhoddodd i wladwriaeth newydd Gwlad Pwyl, a sefydlwyd ar 3 Tachwedd 1918, fynediad i'r Môr Baltig er mwyn i'r wladwriaeth newydd allu gweithredu'n economaidd heb fod yn hollol ddibynnol ar yr Almaen. Roedd yr ardal fach, ond roedd porthladd bwysig Gdansk bresennol ("Danzig" wrth ei henw Almaeneg a mwyaf cyffredin i'r byd tu hwnt i Wlad Pwyl hyd nes diwedd yr Ail Ryfel Byd) a sba glan-môr boblogaidd, Sopot. Roedd y llain a'r porthladd yn gwahanu prif gorff tiriogaeth yr Almaen oddi wrth talaith Almaeneg Dwyrain Prwsia. Daliau i Ddwyrain Prwsia fod yn rhan o'r wladwriaeth Almaeneg - Gweriniaeth Weimar ac yna, wedi 1933, yr Almaen o dan y Natsïaid hyd nes 1945. Daeth Danzig a'r Coridor Pwylaidd yn bynciau trafod llosg trwy gydol yr 1920au ac yn enwedig yr 1930au.
Enghraifft o'r canlynol | coridor daear-wleidyddol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1920 |
Gwladwriaeth | Gwlad Pwyl |