Cyfrifiannell
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyfais electronig, cludadwy i gyfrifo (gwneud symiau) ydy'r cyfrifiannell. Yn wahanol i'r cyfrifiadur, nifer cyfyngedig iawn o alluoedd datrys problemau sydd ganddo ac nid yw'r defnyddiwr, chwaith, yn rhaglenu arno. Fodd bynnag gellir cyfrifo symiau rhifyddeg syml a mathemateg chymhleth.
- Erthygl am y cyfrifiannell electronig yw hon; am y ddyfais mecanyddol, gweler cyfrifiannell mecanyddol.
Fe'i ceir mewn gwahanol ffurf a maint ac erbyn 2007 roeddent i'w cael ar y ffôn llaw , tabled cyfrifiadurol a dyfeisiadau ymylol eraill.