Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur
From Wikipedia, the free encyclopedia
Sefydlwyd y Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur (ECSC) ym 1951 gan Gytundeb Paris. Ei haelod-wladwriaethau oedd Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Lwcsembwrg (gwledydd Benelux), Gorllewin yr Almaen, Ffrainc a'r Eidal. Pwrpas y gymuned oedd cydgyfrannu adnoddau glo a dur ei haelod-wladwriaethau er mwyn rhwystro rhyfel arall yn Ewrop. Fe'i cynlluniwyd gan Jean Monnet, gwas sifil ac economegydd o Ffrainc, a fe'i cyhoeddwyd gan Robert Schuman, gweinidog tramor Ffrainc.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad rhanbarthol |
---|---|
Daeth i ben | 23 Gorffennaf 2002 |
Rhan o | yr Undeb Ewropeaidd |
Dechrau/Sefydlu | 18 Ebrill 1951 |
Olynwyd gan | yr Undeb Ewropeaidd |
Sylfaenydd | Gwlad Belg, Ffrainc, yr Eidal, Lwcsembwrg, Yr Iseldiroedd, Gorllewin yr Almaen |
Rhagflaenydd | Ruhrstatut |
Olynydd | yr Undeb Ewropeaidd |
Pencadlys | Brwsel |
Enw brodorol | European Coal and Steel Community |
Hyd | 50 blwyddyn |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd yr ECSC yn sylfaen i ddatblygiad y Gymuned Economaidd Ewropeaidd, a arweiniodd at y Gymuned Ewropeaidd ac, yn dilyn Cytundeb Maastricht, at yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd Cytundeb Paris yn ddilys am 50 mlynedd yn unig, ac felly daeth yr ECSC i ben ar 23 Gorffennaf 2002. Roedd y Gymuned Ewropeaidd yn etifeddu cyfrifoldebau ac asedau yr ECSC (cadarhawyd hyn gan brotocol i Gytundeb Nice).