Gwlff Saronica
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Gwlff Saronica (Groeg: Saronikos Kolpos) neu'r Gwlff Aegina yn gilfach neu foryd o'r Môr Aegea sy'n gorwedd rhwng gorynys Attica a'r Peloponesse. Mae Athen a'i phorthladd Piraeus ar ei lannau. Mae'n cynnwys ynysoedd Salamis, lleoliad Brwydr Salamis (480 CC), Aegina, Methana a Poros. Penrhyn Sounion yn Attica sy'n nodi terfyn deheuol y gwlff.
Ffeithiau sydyn Math, Cysylltir gyda ...
Math | gwlff |
---|---|
Cysylltir gyda | Gwlff Corinth, Elefsina Gulf |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Môr Aegeaidd |
Sir | Peloponnesos, Attica Region, Piraeus Regional Unit, Islands Regional Unit, Argolis, Corinthia |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Cyfesurynnau | 37.7°N 23.6°E |
Cau
Yn y gogledd mae Camlas Corinth yn cysylltu Gwlff Saronica â Gwlff Corinth.