Kilimanjaro
From Wikipedia, the free encyclopedia
Kilimanjaro yng ngogledd-ddwyrain Tansanïa yw mynydd uchaf Affrica. Ffurfir Kilimanjaro gan dri copa: Kibo yr uchaf sy'n 5,895 metr (19,341 tr), Mawensi, a Shira. Y copa uchaf yw Copa Uhuru ar y llosgfynydd Kibo. Y cyntaf i gyrraedd y copa yma oedd Yohanas Kinyala Lauwo, Hans Meyer a Ludwig Purtscheller, ar 6 Hydref, 1889. Mae Mawenzi yn 5,149 m (16,890 troedfedd) o uchder, a Shira yn 3,962 m (13,000 troedfedd).
Math | masiff, atyniad twristaidd, dormant volcano |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Kilimanjaro National Park |
Rhan o'r canlynol | Y Dyffryn Hollt Mawr, Y Saith Pegwn, Volcanic Seven Summits, Highest mountain peaks of Africa, ultra-prominent peak, Seven Third Summits |
Sir | Kilimanjaro Region |
Gwlad | Tansanïa |
Uwch y môr | 5,895 metr |
Cyfesurynnau | 3.0667°S 37.3592°E |
Amlygrwydd | 5,885 metr |
Cyfnod daearegol | Plïosen |
Cadwyn fynydd | East African mountains |
Deunydd | rhyolite |
Gellir dringo Uhuru heb brofiad blaenorol o ddringo ar eira a rhew, ac mae tripiau masnachol yn mynd a thwristiaid i'r copa. Fodd bynnag, mae cryn nifer yn gorfod troi'n ôl oherwydd effaith yr uchder.
Dynodwyd Parc Cenedlaethol Kilimanjaro yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
O ran topograffeg, Kilimanjaro yw'r pedwerydd copa mwyaf amlwg ar y Ddaear. Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Kilimanjaro ac mae'n gyrchfan ddringo o bwys. Credir bod ei rewlifoedd a'i haenau o iâ yn crebachu, a rhagwelir y byddant wedi diflannu rhwng 2030 a 2050; oherwydd hyn maent cant eu hastudio gan ddaearegwyr, hinsoddwyr a gwyddonwyr eraill.