Lligwy (siambr gladdu)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Llugwy neu Lligwy yn siambr gladdu gerllaw Moelfre, Ynys Môn, sy'n dyddio o'r cyfnod Neolithig, tua 2500 CC. Mae'n siambr gladdu sylweddol o ran maint, gyda charreg uchaf anferth. Nid yw'n uchel iawn, gan bod y cerrig sy'n cynnal y garreg yma yn weddol isel, a'r siambr wedi ei chreu trwy gloddio'r graig oddi tanodd. Cyfeirnod OS: SH501860.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | cromlech |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3499°N 4.2529°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN009 |
Cau
Bu cloddio archeolegol yma yn 1909, a darganfuwyd gweddillion rhwng 15 a 30 o unigolion ynghyd â chrochenwaith oedd yn awgrymu fod y siambr yn dyddio o ran olaf y cyfnod neolithig.
Mae gweddillion Din Lligwy o'r cyfnod Rhufeinig gerllaw.