Organisation de l'Armée secrète
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mudiad cudd terfysgol asgell dde o ymsefydlwyr Ffrengig yn Algeria yn y 1960au oedd yr Organisation de l'Armée secrète (OAS; hefyd Organisation armée secrète).
Cafodd ei sefydlu yn 1961 gan y Cadfridog Raoul Salan i wrthwynebu unrhyw symudiad tuag at roi annibyniaeth i Algeria ar Ffrainc. Cyflawnodd gyfres o ymosodiadau terfysgol a llofruddiaethau nid yn unig yn Algeria ond yn Ffrainc ei hun. Mae rhai yn credu bod yr OAS wedi mwynhau cefnogaeth ar lefel uchel iawn o fewn y sefydliad Ffrengig a bod llawer o wybodaeth heb ei datguddio eto.
Ei weithred mwyaf adnabyddus oedd ei ymgais i lofruddio Charles de Gaulle, arlywydd Ffrainc, ym mis Medi 1961, am ei fod ar fin dod i gytyndeb â'r cenedlaetholwyr Algeriaidd ac yn barod i ildio annibyniaeth iddynt (cytunwyd telerau annibyniaeth ym Mawrth, 1962. Cafodd yr arweinydd Salan ei arestio yn Ebrill 1962 a'i ddeddfrydu; treuliodd gwta chwe mlynedd (1962-68) yn y carchar am ei droseddau. Byr fu parhad yr OAS yn sgîl hynny.