Sbiral
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn mathemateg, mae'r sbiral neu'r sbeiral yn gromlin sy'n tarddu o un pwynt ac yn cynyddu'n anfeidraidd wrth iddi droelli o amgylch y pwynt hwnnw. Caiff ei defnyddio ers cyn cof mewn celfyddyd gweledol, gan gynnwys cerfiadau gan y Celtiaid e.e. ceir carreg sy'n cynnwys y sbiral o flaen y fynediad i'r domen gladdu ym Mryn Celli Ddu. Gall droi'n glocwedd neu'n wrthglocwedd.
Gellir diffinio'r sbiral mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
- cromlin ar blân Ewclidaidd (2-ddimensiwn), sy'n cordeddu o amgylch canol llonydd, wrth i'r pellter rhwng y gromlin a'r canol gynyddu. Mae'r rhigolau ar record ffonograff yn enghraifft; sylwer: un rhigol sydd mewn gwirionedd ar un ochr! Ceir hefyd galaethau cyfan gyda'u sbiralau logarithmig.
- cromlin 3-dimensiwn sy'n cordeddu o amgylch echelin gyda phellter cynyddol a chyson, gan symud yn paralel i'r echelin. Enw'r math hwn o sbiral yw'r helics; ceir hefyd helics dwbwl e.e. edefyn o DNA neu ddŵr yn cordeddu i lawr y sinc.