Tîm pêl-droed cenedlaethol Liechtenstein
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y tîm sydd yn cynrychioli Liechtenstein yn y byd pêl-droed yw tîm pêl-droed cenedlaethol Liechtenstein (Almaeneg: Liechtensteinische Fussballnationalmannschaf) ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Liechtenstein (LFV), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r LFV yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop, (UEFA). Cynhaliwyd gêm gyntaf y tîm n 1981; gêm answyddogol yn erbyn tîm genedlaethol Malta yn Seoul, a'r sgôr oedd 1-1. Daeth eu gêm swyddogol gyntaf yn 1983 yn erbyn y Swistir, gyda Liechtenstein yn colli 0-1. Enilliad fwyaf Liechtenstein oedd 4-0 yn erbyn tîm bêl-droed genedlaethol Lwcsembwrg ar 13 Hydref 2004, mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan FIFA y Byd. Dyma oedd buddugoliaeth oddi cartref gyntaf erioed a'r fuddugoliaeth gyntaf mewn unrhyw gêm rhagbrofol i Gwpan y Byd. Y sgôr waethaf i Liechtenstein ddioddef oedd colli 11-1 yn erbyn tîm bêl-droed genedlaethol Macedonia yn 1996 mewn gêm ragbrofol i Gwpan y Byd 1998. Dyma hefyd oedd buddugoliaeth orau Macedonia.
Shirt badge/Association crest | |||
Llysenw(au) | Y Glas-Coch (Blau-Rot) | ||
---|---|---|---|
Conffederasiwn | UEFA (Europe) | ||
Hyfforddwr | Rene Pauritsch | ||
Capten | Peter Jehle | ||
Mwyaf o Gapiau | Peter Jehle (126) | ||
Prif sgoriwr | Mario Frick (16) | ||
Cod FIFA | LIE | ||
Safle FIFA | 186 3 (1 Mehefin 2017) | ||
Safle FIFA uchaf | 118 (Ionawr 2008, Gorffennaf 2011, Medi 2011) | ||
Safle FIFA isaf | 189 (Tachwedd–Rhagfyr 2016, Ebrill–Mai 2017) | ||
Safle Elo | 172 (28 Mai 2017) | ||
Safle Elo uchaf | 150 (Medi 2011) | ||
Safle Elo isaf | 184 (Medi 2004) | ||
| |||
Gêm ryngwladol gynaf | |||
Liechtenstein 0–1 Switzerland "B" (Balzers, Liechtenstein; 9 Mawrth 1982)[1] | |||
Y fuddugoliaeth fwyaf | |||
Lwcsembwrg 0–4 Liechtenstein (Luxembourg, Luxembourg; 13 Hydref 2004) | |||
Colled fwyaf | |||
Liechtenstein 1–11 Macedonia (Eschen, Liechtenstein; 9 Tachwedd 1996) |
Mae rhai o chwaraewyr y tîm cenedlaethol yn dal i chwarae i unig dîm broffesiynol y wlad, FC Vaduz, ond bydd eraill yn chwarae y tu allan i'r Dywysogaeth.
Nid yw Liechtenstein erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd na Phencampwriaethau Pêl-droed Ewrop.