Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gweler hefyd Tîm rygbi'r gynghrair cenedlaethol Cymru
Undeb | Undeb Rygbi Cymru | ||
---|---|---|---|
Maes/ydd | Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd | ||
Hyfforddwr | Warren Gatland | ||
Capten | Ken Owens | ||
Mwyaf o gapiau | Alun Wyn Jones (134) | ||
Sgôr mwyaf | Neil Jenkins (1,049) | ||
Mwyaf o geisiadau | Shane Williams (58) | ||
| |||
Y gêm ryngwladol cyntaf | |||
Lloegr 8 – 0 Cymru (19 Chwefror 1881) | |||
Sgôr uchaf | |||
Cymru 98 – 0 Japan (26 Tachwedd 2004) | |||
Cweir mwyaf | |||
De Affrica 96 – 13 Cymru (27 Mehefin 1998) | |||
Cwpan y Byd | |||
Ymddangosiadau | 7/7 | ||
Canlyniad gorau | 3ydd, Cwpan y Byd 1987 |
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. Gweler y dudalen sgwrs am ragor o wybodaeth. |
Mae tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru yn cynrychioli Cymru mewn gemau rhyngwladol. Dyma'r tîm sy'n cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a hefyd yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd a gynhelir bob pedair blynedd. Dewisir aelodau o'r tîm hefyd i chwarae gyda'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig.
Enillodd Cymru'r bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 1893, gan ennill y Goron Driphlyg hefyd. Enillwyd y bencampwriaeth eto yn 1900, gan ddechrau "oes aur" gyntaf rygbi Cymru, oedd i barhau hyd 1911. Wedi cyfnod llai llewyrchus, cafwyd ail gyfnod llwyddiannus yn hanner cyntaf y 1950au. Cafwyd trydydd "oes aur" rhwng 1969 a 1982. Yn 1971, cyflawnodd Cymru'r Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 1952. Ystyria llawer mai tîm 1971, oedd yn cynnwys chwaraewyr fel Gareth Edwards, Barry John a J. P. R. Williams, oedd y tîm gorau i gynrychioli Cymru erioed. Cyflawnwyd y Gamp Lawn eto yn 1976 a 1978.
Fodd bynnag, y 1980au a'r 1990au cafwyd canlyniadau gwael. Byr oedd y cyfnod llwm, fodd bynnag ac erbyn dechrau'r ganrif newydd roedd arwyddion calonogol, a chyflawnwyd y Gamp Lawn yn 2005. Dilynwyd hyn gan berfformiadau siomedig yn y bencampwriaeth yn 2006 a 2007, ond yn 2008 cyflawnwyd y Gamp Lawn eto. Yn gyffredinol, gellir cloriannu perfformiad y tîm cenedlaethol fel dau begwn eithaf: trai a llanw.