Trefignath
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Trefignath yn siambr gladdu gerllaw Caergybi ar Ynys Môn sy'n dyddio o'r cyfnod Neolithig, tua 3900 C.C. i 2900 C.C.. Mae'n siambr gladdu sylweddol o ran maint, a dangosodd cloddio archeolegol yn nechrau'r nawdegau ei bod wedi ei defnyddio am gyfnod o tua mil o flynyddoedd. Ar y cychwyn roedd yn siambr weddol syml gyda chyntedd, tebyg i Bodowyr. Yn ddiweddarach newidiwyd y cynllun i fod yn siambr hirsgwar gyda dwy garreg fawr bob ochr i'r fynedfa, a chwrt cul o'i blaen. Yna ychwanegwyd siambr arall ar yr ochr ddwyreiniol gyda cherrig mawr o flaen y fynedfa.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | siambr gladdu |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.29323°N 4.614309°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | AN011 |
Cau
Gellir cyrraedd Trefignath wrth droi i gyfeiriad Trearddur o ochr Caergybi i'r cob ar y briffordd A5 ac yna troi i'r chwith wrth yr ysgol.
- Trefignath o ongl arall
- Maen hir Tŷ Mawr, gerllaw