Tytonidae
teulu o adar / From Wikipedia, the free encyclopedia
Teulu o adar yw'r Tytonidae, sy'n air Lladin (enw Cymraeg: Teulu'r Dylluan Wen; ll. Tylluanod Gwynion). Mae'n un o ddau deulu o dylluanod, y llall yw'r Strigidae, sef y 'Gwir dylluanod'. Ceir 16 rhywogaeth sy'n fyw heddiw.
Ffeithiau sydyn Barn-owls Amrediad amseryddol: Eosen i'r presennol, Dosbarthiad gwyddonol ...
Barn-owls Amrediad amseryddol: Eosen i'r presennol | |
---|---|
Tylluan wen fygydog Awstralia (Tyto novaehollandiae) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | Aves |
Urdd: | Strigiformes |
Teulu: | Tytonidae Ridgway, 1914 |
Genera | |
Tyto | |
Cyfystyron | |
Tytoninae sensu Sibley & Ahlquist |
Cau
O ran maint mae tylluanod gwynion yn ganolig-fawr, gyda phennau mawr, siâp calon. Mae eu coesau'n hir ac yn gryf, ac mae eu crafangau'n hynod o bwerus. Gellir gwahaniaethu rhyngddynt â theulu'r Strigidae yn eitha rhwydd, drwy edrych ar eu sternwm a'u coesau.
O fewn y teulu hwn ceir dau isdeulu: y Tytoninae (neu Dylluanod Tyto) a'r Phodilinae (Tylluanod gwinau).