Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Y Croesgadau
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r erthygl hon yn ymwneud â Chroesgadau'r Oesoedd Canol. Am enghreifftiau eraill o'r gair Croesgad (neu Crŵsad), gweler Croesgad (gwahaniaethu) a Croesgadwr.
Roedd Y Croesgadau yn gyfres o ymgyrchoedd milwrol a ymladdwyd gan Gristnogion o gorllewin Ewrop draw yn y Dwyrain Canol yn yr Oesoedd Canol, sef rhwng diwedd yr unfed ganrif ar ddeg a diwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Eu pwrpas oedd adfeddiannu y Tiroedd Sanctaidd, gan gynnwys lleoedd cysegredig Palesteina oddi ar y Mwslimiaid. Roedd y tiroedd hyn yn bwysig i Gristnogion oherwydd dyma ble roedd Cristnogaeth wedi cychwyn ac ar ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg cyhoeddodd y Pab bod angen achub y Tir Sanctaidd rhag rheolaeth gan Fwslemiaid. At ei gilydd dyma oedd cychwyn cyfnod pan ymladdwyd wyth croesgad bwysig. Bu sawl ymgyrch gan Gristnogion i recriwtio bobl i ymladd yn y Croesgadau a dyma oedd pwrpas taith Gerallt Gymro drwy Gymru yn 1188. Roedd Jeriwsalem yn fan ymladd allweddol rhwng Cristnogion a Mwslimiaid ac yn bwysig i’r ddwy grefydd. Yn ystod yr Oesoedd Canol daeth Jeriwsalem, a mannau cysegredig eraill ym Mhalesteina, yn gyrchfannau pwysig i bererinion Cristnogol gan mai rhain oedd y tiroedd ble roedd Iesu Grist wedi byw. Cydnabyddir saith croesgad hanesyddol ond mae eu diffinio felly yn tueddu i anwybyddu'r ffaith fod hon yn broses barhaol gyda'r croesgadau "swyddogol" yn cynrychioli penllanw neu drobwynt yn ei hanes.