Ymosodiad ar dîm pêl-droed cenedlaethol Togo
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ymosodiad terfysgol ar fws tîm pêl-droed cenedlaethol Togo oedd yr ymosodiad ar dîm pêl-droed cenedlaethol Togo, a ddigwyddodd ar 8 Ionawr 2010 wrth i'r tîm teithio trwy Dalaith Cabinda ar eu ffordd o Weriniaeth y Congo i brif dir Angola ar gyfer twrnamaint Cwpan Cenhedloedd Affrica 2010, a ddechreuodd ar 10 Ionawr.[1] Hawliodd cangen hollt go anadnabyddus o'r Ffrynt dros Ryddhad Clofan Cabinda (FLEC), mudiad ymwahanol o Cabinda, a adwaenir fel y Ffrynt dros Ryddhad Clofan Cabinda - Safbwynt Milwrol (FLEC-PM), gyfrifoldeb am yr ymosodiad.[2] Bu farw gyrrwr bws, rheolwr cynorthwyol y tîm Abalo Amelete, a swyddog y cyfryngau Stanislas Ocloo, a chafodd nifer eraill eu hanafu.[3] Honnodd Ysgrifennydd Cyffredinol y FLEC-PM Rodrigues Mingas, sydd ar hyn o bryd yn byw'n alltud yn Ffrainc, nad oedd yr ymosodiad yn targedu'r chwaraewyr Togoaidd ond yn hytrach y lluoedd Angolaidd ar flaen y cymdaith.[4] Yn ôl yr awdurdodau cadwyd dau berson a ddrwgdybir o gysylltiad â'r ymosodiad yn y ddalfa.[5] Honwyd i Ffrainc gefnogi'r grŵp ymwahanol a llochesu ei harweinwyr.[6]
Enghraifft o'r canlynol | bus bombing |
---|---|
Dyddiad | 8 Ionawr 2010 |
Lladdwyd | 3 |
Lleoliad | Cabinda |