A.C. Milan
From Wikipedia, the free encyclopedia
Clwb pêl-droed sy'n chwarae yn Serie A yn yr Eidal yw Associazione Calcio Milan. Mae'n un o glybiau pêl-droed enwocaf a mwyaf llwyddiannus Ewrop. Mae chwaraewyr A.C. Milan wedi bod yn bencampwyr Ewrop saith gwaith; dim ond Real Madrid gyda naw buddugoliaeth sydd wedi bod yn fwy llwyddiannus yn y gystadleuaeth. Maent wedi ennill pencampwriaeth Serie A 17 o weithiau; dim ond Juventus sydd wedi ei hennill fwy o weithiau.
Ffeithiau sydyn Enw llawn, Llysenw(au) ...
Enw llawn |
Associazione Calcio Milan (Cymdeithas Pêl-droed Milan). | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) |
Rossoneri Il Diavolo | ||
Sefydlwyd | 1899 | ||
Maes |
San Siro (Stadio Giuseppe Meazza) | ||
Cadeirydd | Silvio Berlusconi | ||
Rheolwr | Vincenzo Montella | ||
Cynghrair | Serie A | ||
2021/22 | 1. | ||
|
Cau
Sefydlwyd y clwb fel clwb criced ym 1899 gan Brydeiniwr o'r enw Alfred Edwards. Mae'n rhannu stadiwm San Siro, sydd â 80,018 o seddi, gyda thîm pêl-droed arall dinas Milan, Internazionale. Perchennog y clwb yw Jason Wong.