Alan Bennett
cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Armley yn 1934 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur, actor, difyrrwr a dramodydd Seisnig Alan Bennett (ganed 9 Mai 1934). Cafodd ei eni yn Armley yn Leeds, Gorllewin Swydd Efrog, yn fab i gigydd. Mynychodd Ysgol Fodern Leeds. Dysgodd Rwsieg tra'n gwneud ei Wasanaeth Cenedlaethol a chafodd le yng Ngholeg Sidney Sussex, Caergrawnt. Wedi hyn, aeth i Goleg Exeter, Rhydychen lle derbyniodd gradd dosbarth cyntaf. Tra'n astudio'n Rhydychen, perfformiodd mewn llawer o gomedïau yn yr Oxford Revue, gydag actorion a ddaeth yn llwyddiannus yn y dyfodol. Parhaodd yn y brifysgol am nifer o flynyddoedd, lle gwnaeth waith ymchwil a dysgodd Hanes Ganol Oesol ond penderfynodd nad oedd bywyd fel ysgolhaig yn addas ar ei gyfer.
Ffeithiau sydyn Geni, Galwedigaeth ...
Alan Bennett | |
---|---|
Geni | Alan Bennett 9 Mai 1934 Leeds, Swydd Efrog, Lloegr, DU |
Galwedigaeth | Nofelydd, bardd, dramodydd, actor |
Addysg | Ysgol Fodern Leeds, Leeds. |
Cyfnod ysgrifennu | 1960 - presennol |
Gwaith nodedig | The Madness of King George, Talking Heads |
Cau