Antoine de Saint-Exupéry
From Wikipedia, the free encyclopedia
Awyrennwr ac awdur Ffrengig oedd Antoine Marie Jean-Baptiste Roger de Saint-Exupéry (29 Mehefin 1900 – 31 Gorffennaf 1944).[1][2]
Antoine de Saint-Exupéry | |
---|---|
Ganwyd | Antoine Jean-Baptiste Marie Roger de Saint-Exupéry 29 Mehefin 1900 2nd arrondissement of Lyon |
Bu farw | 31 Gorffennaf 1944 île de Riou, Y Môr Canoldir |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hedfanwr, nofelydd, awdur plant, ysgrifennwr, newyddiadurwr, darlunydd, athronydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Vol de nuit, Y Tywysog Bach, Southern Mail, Wind, Sand and Stars, Letter to a hostage, Flight to Arras, Citadelle |
Arddull | nofel, tale, barddoniaeth, récit |
Tad | Jean Marc de Saint-Exupéry |
Mam | Marie de Saint-Exupéry |
Priod | Consuelo de Saint Exupéry |
Llinach | Thanos and his familly |
Gwobr/au | Mort pour la France, Croix de guerre 1939–1945, Chevalier de la Légion d'Honneur, Officier de la Légion d'honneur, Prix Femina, Prif Wobr Nofel yr Academi Ffrengig, Gwobr Genedlaethol am Lyfr Ffeithiol, Gwobr Hugo am y Nofel Fer Orau, Ambassadors' Prize, Retro Hugo Award for Best Novella, Gwobr Cenedlaethol y Llyfr |
Gwefan | https://www.antoinedesaintexupery.com/ |
llofnod | |
Ganed ef yn Lyon, i deulu oedd o dras uchelwrol. Wedi hyfforddi fel awyrennwr yn ystod ei wasanaeth milwrol yn 1921, bu'n gweithio fel peilot i gwmni Latécoère, yn cario'r post o Toulouse i Senegal. Cyhoeddodd Courrier Sud, yn seiledig ar ei brofiad yn y swydd yma, yn 1929.
O 1932, bu'n canolbwyntio ar ysgrifennu a newyddiaduraeth. Fel newyddiadurwr, bu yn Fietnam yn 1934 , Moscow yn 1935, a Sbaen yn 1936. Yn 1939, ymunodd a'r awyrlu Ffrengig. Wedi cwymp Ffrainc, symudodd i Efrog Newydd gyda'r bwriad o barhau'r rhyfel a dod yn llefarydd dros y Résistance Ffrengig. Yn 1944 bu'n hedfan dros dde Ffrainc yn cymryd lluniau o'r awyr i gasglu gwybodaeth ar gyfer ymosodiadau'r Cynghreiriaid. Diflannodd yn ystod un o'r teithiau hyn, ar 31 Gorffennaf. Dim ond yn 1998 y cafwyd hyd i'w awyren.
Ysgrifennodd ei lyfr enwocaf, Le Petit Prince, yn Efrog Newydd yn 1943. Cyhoeddwyd addasiad ohono i'r Gymraeg fel Y Tywysog Bach gan Llinos Dafis (Edition Tintenfass, Neckarsteinach 2007).