Baner Puerto Rico
baner swyddogol PR ers 1952 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Lluniwyd baner Puerto Rico gyntaf yn 1891, gan ei arddangos ar 22 Rhagfyr 1895 ac fe'i fabwysiadwyd yn swyddogol ar 24 Gorffennaf 1952. Mae'n cynnwys pum band llorweddol cyfartal o goch a gwyn (gyda'r rhai coch ar y pennau) ac un glas hafalochrog triongl ar ochr y mas. Tu fewn i'r triongl ceir seren bum-bwynt gwyn. Mae'r triongl yn cynrychioli delfrydau gweriniaethol rhyddid, cydraddoldeb a brawdoliaeth.