Beichiogrwydd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y cyflwr o gario un neu fwy o epil, a elwir yn ffetws neu'n embryo, o fewn croth benyw yw beichiogrwydd (Lladin: graviditas). Gall fod sawl beichiogiad mewn un beichiogrwydd, megis mewn achos efeilliaid neu dripledi. Beichiogrwydd dynol yw'r beichiogrwydd ag astudiwyd fwyaf o'r holl feichiogrwydd mamaliaid. Obstetreg yw'r maes llawfeddygol sy'n astudio a gofalu am feichiogrwydd â risg uchel. Bydwreigiaeth yw'r maes di-lawfeddygol sy'n gofalu am feichiogrwydd a merched beichiog.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | cyflwr ffisiolegol |
---|---|
Math | pregnancy |
Arbenigedd meddygol | Bydwreigiaeth |
Rhan o | motherhood, mam, tad, adulthood |
Hyd | 38 ±2 wythnos |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Mae'r erthygl hon yn sôn am feichiogrwydd benywod. Am feichiogrwydd anifeiliaid annynol, gweler Gestation. Am feichiogrwydd dynion, gweler Beichiogrwydd gwryw.
Mae genedigaeth fel arfer yn digwydd 38 wythnos wedi cenhedliad; h.y., tua 40 wythnos wedi dechrau mislif diwethaf y ddynes. Mae amcangyfrif y dyddiad yn dibynnu ar gylched mislifol safonol o 28 diwrnod.