C.P.D. Penparcau
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Clwb Pêl-droed Penparcau yn glwb pêl-droed o faestref Penparcau, sydd bellach yn rhan o Aberystwyth. Arddelir ffurf Saesneg y clwb fel rheol, Penparcau FC. Sefydlwyd y clwb yn 1909. Mae'r clwb yn chwarae eu gemau cartref ar Min-y-ddôl ar waelod stâd Penparcau wrth ymyl Afon Rheidol.
Ffeithiau sydyn Enw llawn, Llysenwau ...
Enw llawn | Penparcau Football Club | ||
---|---|---|---|
Llysenwau | Arky-Penarky | ||
Sefydlwyd | 1909 | ||
Maes | Min-y-Ddol Penparcau Aberystwyth Ceredigion | ||
Cadeirydd | Cliff Thomas | ||
Rheolwr | Andy Evans a Darren Thomas | ||
Cynghrair | Cynghrair Pêl-droed Canolbarth Cymru, Adran II | ||
2018–19 | Cynghrair Pêl-droed Aberystwyth a'r Cylch Division One, 1st | ||
| |||
Cau
Ar hyn o bryd maen nhw'n chwarae yng Nghynghrair Pêl-droed Canolbarth Cymru, Adran Dau ar gyfer tymor 2019–20, gan nodi dychweliad i'r gynghrair y gwnaethon nhw adael ohoni yn 2011, ar ôl ennill y gynghrair yn 2010.
Diwygiwyd y clwb yn ystod haf 2017 a chwaraeodd yn Adran Un Cynghrair Pêl-droed Aberystwyth a'r Cylch.
Mae gan glwb pêl-droed Penparcau hefyd ddau dîm iau yng Nghynghrair Iau Aberystwyth; Penparcau Flames a Penparcau Phoenix.