Caffè Americano
diod coffi sy'n seiliedig ar espresso gyda dwr berw / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Caffè Americano (ar lafar yn Gymraeg fel rheol Coffi Americano, gelwir hefyd gan amlaf yn Americano ar ben ei hun) yn ddiod coffi sy'n tarddu o'r Eidal. Mae'r term yn yn golygu'n llythrennol, 'coffi Americanaidd'. Mae'r Americano yn fath o ddiod goffi a baratoir, fel rheol, trwy wanhau espresso â dŵr poeth, gan roi cryfder tebyg iddo, ond blas gwahanol i, coffi wedi'i fragu'n draddodiadol. Mae cryfder Americano yn amrywio yn ôl nifer yr joch o espresso a faint o ddŵr sy'n cael ei ychwanegu. Mae'r enw hefyd wedi'i sillafu â chyfalafu amrywiol a defnyddio diacritics: e.e., caffi americano.
Ffeithiau sydyn Math, Gwlad ...
Math | diod, coffi |
---|---|
Gwlad | yr Eidal |
Yn cynnwys | espresso, drinking water |
Enw brodorol | Caffè Americano |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Yn yr Eidal, gallai caffè americano olygu naill ai espresso gyda dŵr poeth neu goffi wedi'i hidlo (caffè all'americana).