Cantref
ardal ddaearyddol ac uned weinyddol yng Nghymru'r Oesoedd Canol / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd cantref yn ardal ddaearyddol ac uned weinyddol yng Nghymru'r Oesoedd Canol, gyda'i chanolfan lys a'i maerdref gysylltiedig. Ystyr yr enw yn llythrennol yw "Cant o drefi" neu "gan trefgordd"; ond nid tref yn yr ystyr ddiweddar a olygir ond 'trefi' Cymreig canoloesol; unedau tebyg i'r plwyf eglwysig a sifil neu i gymunedau Cymru heddiw. Mae'r ffin rhwng rhai cantrefi hefyd yn ffin dafodiaethol, sy'n cadarnhau eu hynafiaeth.