Cwpanllys cyffredin
rhywogaeth o fyd planhigion: un o lysiau’r afu / From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o lysiau'r afu mwyaf cyffredin yw llysiau'r afu palmwyddog (Marchantia polymorpha). Mae'n tyfu ar bridd a chreigiau mewn amrywiaeth o gynefinoedd llaith, gan gynnwys gerddi a thai gwydr. Mae'n rhywogaeth fawr sy'n cyrraedd 10 cm o hyd. Mae'n cynhyrchu strwythurau atgenhedlu o siâp palmwydden (planhigion benywaidd) neu barasol (planhigion gwrywaidd).
Ffeithiau sydyn Llysiau'r afu palmwyddog, Dosbarthiad gwyddonol ...
Llysiau'r afu palmwyddog | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | Marchantiopsida |
Urdd: | Marchantiales |
Teulu: | Marchantiaceae |
Genws: | Marchantia |
Rhywogaeth: | M. polymorpha |
Enw deuenwol | |
Marchantia polymorpha L. | |
Cau
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.