Dadansoddi real
From Wikipedia, the free encyclopedia
O fewn dadansoddi mathemategol, dadansoddi real (real analysis) yw'r astudiaeth sy'n ymwneud ag ymddygiad rhifau real , dilyniannau a chyfresi o rifau real, a ffwythiannau sydd â gwerth-real. Yn draddodiadol, arferai 'dadansoddi real' gyfeirio at theori ffwythiannau newidynnau real.
Yn benodol, mae'n delio gyda phriodweddau dadansoddol ffwythiannau a dilyniannau real, gan gynnwys cydgyfeiriant a therfannau dilyniannau o rifau real, calcwlws rhifau real, a pharhad, esmwythder a phriodweddau a gysylltir gyda ffwythiannau gwerth-real.
Mae dadansoddi real yn wahanol iawn i ddadansoddi cymhlyg, sy'n delio gyda'r astudiaeth o rifau cymhlyg.