Dafad Llŷn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Math o ddafad a fegir yng Nghymru ar gyfer ei gwlân, ei chig, ei chroen a'i harddangos ydy dafad Llŷn. Mewnforiwyd y ddafad o Roscommon, Iwerddon i Benrhyn Llŷn rhwng 1810 a 1815 a hynny drwy drefniant gan ddau o ffermwyr defaid mwayf Penrhyn Llŷn yr adeg honno, sef Lloyd Edwards, Nanhoron a'i gyfaill Syr Watkin Williams-Wynn (Yr Arglwydd Mostyn), Ystâd Cefn Amwlch. O fewn pedair blynedd o werthu'r ddafad i'w tenantiaid a'i bridio efo hwrdd Cymreig, roedd yr epil yn ddafad bur ac fe'i galwyd yn "ddafad Llŷn".[1] Maen nhw'n gweddu i dir gwastad y dyffryn yn ogystal â thir mynydd.[2]
Eryn y 1930au, dafad Llŷn oedd y 5ed brid mwyaf yng Nghymru, gan ddilyn: y ddafad fynydd Gymreig, dafad Bryniau Ceri, dafad Clun a dafad Maesyfed. Mae'r cnu'n hynod o ysgafn o'i gymharu a'r gweddill, a thelid mwy o arian amdano.