Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/John Dee
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Dr. John Dee (13 Gorffennaf 1527 – Rhagfyr 1608) yn yn ddyn amryddawn oherwydd roedd yn fathemategydd nodedig, yn alcemydd, yn athronydd, yn ddaearyddwr, yn seryddwr ac ef oedd 'hoff athronydd' y Frenhines Elisabeth I. Roedd o dras Gymreig a chafodd ei eni yn Llundain ble y bu’n byw gyda’i wraig, Jane Dee. Mae tras Cymreig Dee yn cael ei ddangos yn ei ddyddiaduron ble mae’n sôn yn aml am ei gefndryd Cymreig; un ohonynt oedd Thomas Jones o Dregaron, sy'n fwy adnabyddus fel Twm Siôn Cati. Cyflwynodd Dee gynlluniau i sefydlu llyfrgell genedlaethol ond nid ariannwyd y cynllun hwnnw felly aeth ati i greu casgliad ei hun. Roedd ei lyfrgell, a oedd yn cynnwys sawl cyfrol yn y Gymraeg, gystal â rhai o lyfrgelloedd prifysgolion y cyfnod, ac o bosib y llyfrgell fwyaf yn Ewrop gyfan
Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/John Dee | |
---|---|
John Dee [1] |
Unodd Dee ddwy wyddor bwysicaf ei gyfnod, sef dewiniaeth a gwyddoniaeth. Ar yr adeg pan roedden nhw'n dechrau ffurfio, roedden nhw'n bynciau gwahanol, ac roedd alcemi, astroleg, a'r goruwchnaturiol yn rhan bwysig o'i waith hefyd. Ystyrir ef fel un o feddylwyr mwyaf ei oes; bu'n darlithio ar algebra ym Mharis pan oedd yn ei ugeiniau ac roedd yn fordwywr heb ei ail. Yn y 1580au, wrth annog llongwyr ifanc i geisio darganfod y Northwest Passage, er enghraifft, bathodd y term yr Ymerodraeth Brydeinig.
Credai'n gryf yn Hermes Trismegistus a 'rheswm pur', purdeb yr enaid a meddyliau Paganaidd deallusol. Treuliodd draean olaf ei oes yn ceisio sgwrsio gydag angylion gan obeithio deall iaith y Crëwr.
Roedd yn gynghorydd ac yn athro i Elisabeth I a daeth i adnabod dau o'i Phrif Weinidogion; Francis Walsingham ac William Cecil. Roedd hefyd yn gyfaill i'r mathemategydd o Gymru Robert Recorde.
Cyrhaeddodd hynafiaid John Dee Lundain yn dilyn coroni Harri Tudur yn Harri VII.[2] Daw'r enw 'Dee' o'r gair Cymraeg du, gan mai ei daid oedd Bedo Du o Nant-y-groes, Pilalau, Sir Faesyfed. Cedwir siart achau a baratowyd ar gyfer John Dee yn y Llyfrgell Brydeinig.[3] Cadwodd y teulu, gan gynnwys John Dee ei hun, gysylltiad agos â'r ardal.
Ei nod mawr drwy ei fywyd oedd uno'r Pabyddion a'r Protestaniaid ac ail lansio'r cwbl dan gochl hen ddiwinyddiaeth yr oesoedd coll.
Mae'r glyff a luniodd yn dangos fod y cosmos cyfan fel un, ac mae'n cynnwys nifer o symbolau astroleg, ond ni wyddom y cyfan am y glyff hwn gan i Dee ysgrifennu'r cwbl mewn cod eithaf cyfrin.
Roedd Dee yn ysbïwr i Elisabeth I yn ôl rhai. Yn hytrach na defnyddio'i lofnod arferol ar ei lythyrau at y frenhines, defnyddiai'r rhifolion "007"; efallai mai oddi yma y cafodd Ian Fleming y syniad yn ei nofelau am James Bond.