Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Llywelyn ap Gruffudd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf) (tua 1225 – 11 Rhagfyr 1282), oedd y tywysog cyntaf i gael ei gydnabod yn Dywysog Cymru gan Frenin Lloegr.
Llywelyn ap Gruffudd | |||||
---|---|---|---|---|---|
Tywysog Cymru | |||||
Llywelyn ap Gruffudd; cerflun gan Henry Pegram, 1913 | |||||
Tywysog Cymru | |||||
1246–1282 | |||||
Rhagflaenydd | Dafydd ap Llywelyn | ||||
Olynydd | Dafydd ap Gruffudd | ||||
Ganwyd | c. 1223/5 | ||||
Bu farw | 11 Rhagfyr 1282 Cilmeri, Aberedw, Powys | ||||
Claddwyd | Ei gorff: Abaty Cwm-hir Ei ben: Tŵr Llundain | ||||
Tywysoges | Eleanor de Montfort | ||||
Plant | Y Dywysoges Gwenllian | ||||
| |||||
Llinach | Aberffraw a Theyrnas Gwynedd | ||||
Tad | Gruffudd ap Llywelyn Fawr | ||||
Mam | Senana ferch Caradog |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
HWB | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Ei nod oedd ceisio uno Cymru, a brwydrodd yn galed yn erbyn Brenhinoedd Lloegr, yn enwedig Edward I, i gyflawni hyn. Mae llawer o bobl yn ei alw’n Llywelyn ein Llyw Olaf am mai ef oedd tywysog olaf Cymru cyn i Frenin Lloegr, Edward I, reoli Cymru gyfan.[1]
Mae ei enw yn ymddangos am y tro cyntaf mewn cofnodion yn 1243.[2] Ar farwolaeth ei ewyrth Dafydd ap Llywelyn yn 1246, ef oedd yr olynydd amlwg, ond yn ôl Cytundeb Woodstock yn 1247 rhannwyd Gwynedd rhwng y tri brawd: Llywelyn, Owain (ei frawd hŷn) a Dafydd. Yn 1255 gorchfygodd Llywelyn ei ddau frawd a sefydlodd ei hun yn unig reolwr Gwynedd Uwch Conwy.[2] Y flwyddyn wedyn roedd y Berfeddwlad o dan ei arweinyddiaeth ac o fewn dwy flynedd roedd y rhan fwyaf o'r Gymru frodorol (Pura Wallia) yn ei feddiant.
Ar ôl ryfel cartref yn Lloegr yn 1263 dan arweiniad Simon de Montfort, llofnodwyd Cytundeb Trefaldwyn. Roedd y cytundeb rhwng Llywelyn a Harri III o Loegr yn cydnabod safle Llywelyn fel Tywysog Cymru gyda'r hawl i wrogaeth pob tywysog ac arglwydd yn y Gymru annibynnol. Gwnaed hynny ym mhresenoldeb Ottobuono, llysgenad y Pab.[3]
Bu farw Harri III yn 1272 ac ar ôl i Edward I gael ei goroni yn frenin Lloegr dechreuodd y drwgdeimlad rhwng y ddwy wlad godi unwaith eto. Ar 21 Mawrth 1282 ymosododd Dafydd ap Gruffudd, brawd ieuengaf Llywelyn, ar Gastell Penarlâg, oedd ym meddiant y Saeson, gan ei feddiannu. Bu raid i Lywelyn gefnogi'r ymosodiad, gan fod y Cymry yn anesmwytho gan fod Edward wedi penodi Saeson i fod mewn grym yng Nghymru.
Cafwyd buddugoliaeth arall ger Afon Menai a llwyddodd y Cymry yng Ngheredigion a Dyffryn Tywi. Mentrodd Llywelyn ddod o'i loches yn Eryri a mynd i'r Canolbarth. Yno, mewn cynllwyn Seisnig, lladdwyd Llywelyn yng Nghilmeri gan filwr o Sais ar 11 Rhagfyr 1282. Mae 11 Rhagfyr yn ddyddiad sy'n cael ei gadw gan lawer fel Gŵyl i'w gofio.