Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Winston Churchill
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o Sais oedd Winston Leonard Spencer Churchill (30 Tachwedd 1874 – 24 Ionawr 1965). Gwasanaethodd fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ganwyd Churchill i fywyd o gyfoeth a braint ar Tachwedd 30, 1874 ym Mhalas Blenheim, Swydd Rhydychen. Daeth Winston yn filwr ac yna’n newyddiadurwr. Enillodd ei enw da am ddewrder a menter fel gohebydd rhyfel yn ystod Rhyfel y Boer 1899–1902. Bu’n un o gyd-wleidyddion David Lloyd George tra’n aelod o’r Blaid Ryddfrydol cyn newid ei liwiau gwleidyddol i fod yn aelod o’r Blaid Geidwadol. Yn ystod y 1930au bu’n feirniaid cyson o bolisi dyhuddo Prydain tuag at Hitler ac yn 1940 olynodd Neville Chamberlain fel arweinydd Llywodraeth Prydain. Gwasanaethodd fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan arwain y wlad i fuddugoliaeth yn 1945. Collodd Churchill a’r Blaid Geidwadol Etholiad Cyffredinol 1945 ond dychwelodd i bŵer fel Prif Weinidog rhwng 1951 a 1955. Roedd hefyd yn awdur llyfrau hanes ac atgofion.
Syr Winston Churchill | |
Cyfnod yn y swydd 10 Mai 1940 – 27 Gorffennaf 1945 | |
Rhagflaenydd | Neville Chamberlain |
---|---|
Olynydd | Clement Attlee |
Cyfnod yn y swydd 26 Hydref 1951 – 7 Ebrill 1955 | |
Rhagflaenydd | Clement Attlee |
Olynydd | Anthony Eden |
Geni | 30 Tachwedd 1874(1874-11-30) Palas Blenheim, Woodstock, Swydd Rydychen |
Marw | 24 Ionawr 1965(1965-01-24) (90 oed) Parc Hyde Gate, Llundain |
Plaid wleidyddol | Ceidwadol |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Dirwasgiad a Rhyfel | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |