Defnyddiwr:Liamjflynn/Dyn Vitruvius
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyluniad gan y polymath Leonardo da Vinci tua 1490 yw'r Dyn Vitruvian (eidaleg: l'uomo vitruviano [ˈlwɔːmo vitruˈvjaːno]; a elwir yn wreiddiol Le proporzioni del corpo umano secondo Vitruvio, yn llythrennol. 'Cyfrannau o'r corff dynol yn ôl Vitruvius')[1]. Dilynir gan nodiadau yn seiliedig ar waith y pensaer Rhufeinig Vitruvius. Mae'r dyluniad, a wnaed ag inc ar bapur, yn dangos dyn mewn dau ystum trosargraffedig gyda'i freichiau a'i goesau ar led mewn cylch a sgwâr. Mae'n cynrychioli cysyniad Leonardo da Vinci o'r cyfrannau corff dynol delfrydol.
Italian: L'uomo vitruviano | |
---|---|
Arlunydd | Leonardo da Vinci |
Blwyddyn | c. 1490 |
Maint | 34.6 cm × 25.5 cm × (13.6 in × 10.0 in) |
Lleoliad | Gallerie dell'Accademia, Venice, Italy |
Cyhoeddwyd gyntaf mewn atgynhyrchiad ym 1810. Fodd bynnag, ni chyrhaeddodd y darluniad ei enwogrwydd presennol nes iddo gael ei atgynhyrchu eto ar ddiwedd y 19eg ganrif. Nid yw'n amlwg a oedd wedi dylanwadu ar arfer artistig yn adeg Leonardo neu'n hwyrach. Fe'i amddifynnir yn y Gabinetto dei disegni e delle stampe o'r Gallerie dell'Accademia, yn Fenis, yr Eidal, o dan gyfeirnod 228. Megis y mwyafrif o weithiau ar bapur, dim ond yn achlysurol y'i arddangosir i'r cyhoedd, ac nid yw'n rhan o'r arddangosfa arferol. [2] [3] Arddangosid y gwaith yn ddiweddar yn arddangosfa gwaith Da Vinci'r rhwng 24 Hydref 2019 a 24 Chwefror 2020 fel rhan o gytundeb rhwng Ffrainc a'r Eidal. [4] [5]