Dimensiwn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mewn ffiseg a mathemateg, mae dimensiwn gofod neu wrthrych yn cael ei ddiffinio'n anffurfiol fel yr isafswm o gyfesurynnau sydd eu hangen i bennu unrhyw bwynt oddi fewn i'r gofod (neu wrthrych).
Felly:
- Un dimensiwn: mae gan linell ddimensiwn o un oherwydd mai dim ond un cyfesuryn sydd ei angen i bennu pwynt arno e.e. y pwynt 5 ar linell rif.
- Dau ddimensiwn: mae gan arwyneb fel plân, silindr neu sffêr ddimensiwn o ddau - oherwydd bod angen dau gyfesuryn i bennu pwynt arno - e.e. mae angen lledred a hydred i ddod o hyd i bwynt ar wyneb sffêr.
- Tri dimensiwn: mae tu mewn ciwb, silindr neu sffêr yn dri dimensiwn oherwydd bod angen tri chyfesuryn i leoli pwynt o fewn y gofod hwn.