Gemau Ymerodraeth Prydain 1950
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gemau Ymerodraeth Prydain 1950 oedd y pedwerydd tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Oherwydd yr Ail Ryfel Byd dyma'r tro cyntaf ers 12 mlynedd i'r Gemau gael eu cynnal. Auckland, Seland Newydd oedd cartref y Gemau rhwng 4-11 Chwefror.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dyddiad ...
Enghraifft o'r canlynol | Digwyddiad aml-chwaraeon |
---|---|
Dyddiad | 1950 |
Dechreuwyd | 4 Chwefror 1950 |
Daeth i ben | 11 Chwefror 1950 |
Cyfres | Gemau'r Gymanwlad |
Lleoliad | Auckland |
Yn cynnwys | rowing at the 1950 British Empire Games |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Ffeithiau sydyn 4ydd Gemau Ymerodraeth Prydain, Campau ...
Cau
Oherwydd y dirwasgiad a chost teithio i Awstralia, ni chafwyd cymaint o athletwyr ag a gafwyd yng Ngemau Llundain, 1934 ac er na chafwyd unrhyw gynrychiolaeth o Hong Cong, Jamaica a Newfoundland cafwyd athletwyr o Ceylon a Ffiji am y tro cyntaf. Ymunodd Malaya a Nigeria â'r Gemau am y tro cyntaf a chyflwynwyd cystadlaethau ffensio a chodi pwysau i'r Gemau.