Gjirokastra
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas hynafol yn ne Albania yw Gjirokastra neu Gjirokastër (Groeg: Αργυρόκαστρον, Argyrókastron; Aromaneg: Ljurocastru, Eidaleg: Argirocastro, Twrceg: Ergiri). Mae ganddi boblogaeth o tua 34,000. Mae'n ganolfan weinyddol Ardal Gjirokastër a Swydd Gjirokastër. Rhestrir ei hen ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO fel "enghraifft brin o dref Otomanaidd mewn cyflwr da, a godwyd gan ffermwyr cefnog". Wedi ei lleoli yn ne'r wlad, 300 medr uwch lefel y môr, gorwedd Gjirokastra mewn lleoliad hardd mewn dyffryn ffrwythlon rhwng mynyddoedd uchel y Gjerë ac afon Drin neu Drinos. Dominyddir y ddinas gan gastell canoloesol mawr (Kalaja e Gjirokastres) gyda rhannau o'r muriau yn dyddio yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid.
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 23,437 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Gjirokastër, Sir Gjirokastër |
Gwlad | Albania |
Arwynebedd | 59 ha |
Uwch y môr | 193 metr, 286 metr |
Cyfesurynnau | 40.07583°N 20.13889°E |
Cod post | 6001–6003 |
Gorwedd Gjirokastra yn agos i'r ffin rhwng Albania a Gwlad Groeg, i'r de, yn ardal Epiros, ac fe'i hystyrir yn brif ganolfan y gymuned Roegaidd yn Albania. Daw'r enw Albaneg presennol o'r hen enw Groeg, Argyrokastron, sy'n golygu "Castell/Caer Arian".
Brodor enwocaf y ddinas, efallai, yw'r cyn unben Enver Hoxha, arweinydd Albania yn y cyfnod Comiwnyddol.