Guernésiais
From Wikipedia, the free encyclopedia
Y Guernésiais, a elwir hefyd yn Dgèrnésiais, yn Djernezié, yn Giérrneziei, yn Gernesiés, yn Ffrangeg Guernsey, ac yn Ffrangeg Normanaidd Guernsey, yw'r amrywiad o Ffrangeg Normanaidd a siaredir ar Ynys y Garn. Weithiau, mae pobl yr ynys yn ei galw yn "patois". Mae'n un o'r langues d'oïl, â'i gwreiddiau yn y Lladin, ond mae wedi dod o dan ddylanwad cryf o'r Hen Norseg a'r Saesneg, ar adegau gwahanol yn ei hanes. Mae'n perthyn yn agos i iaith Normanaidd Jersey, y Jèrriais, iaith Normanaidd Sarc, y Sercquiais, ac iaith Normanaidd Alderney, yr Auregnais.
Mae siaradwyr Guernésiais, siaradwyr Jèrriais o Jersey a siaradwyr Normaneg Cyfandirol o Normandi yn deall ei gilydd yn weddol gyda rhyw faint o ymdrech. Guernésiais sydd fwyaf tebyg i'r dafodiaith Normanaidd Cotentinais a siaredir yn la Hague ym Mhenryn Cotentin.
Mae Ffrangeg Safonol wedi dylanwadu lai ar y Guernésiais na'r Jèrriais, ond i'r gwrthwyneb mae'r Saesneg wedi dylanwadu fwy ar y Guernésiais na'r Jèrriais. Mae geiriau newydd wedi cael eu benthyg o'r Saesneg ar gyfer pethau modern fel "le bike", "le gas-cooker".
Mae traddodiad cyfoethog o farddoniaeth yn y Guernésiais. Ysbrydolwyd caneuon Ynys y Garn gan y môr, gan droeon ymadrodd lliwgar, gan lên gwerin traddodiadol, yn ogystal â chan amgylchedd naturiol yr ynys. Bardd enwocaf yr ynys oedd George Métivier (1790-1881), un o gyfoedion Victor Hugo, a ddylanwadai ac a ysbrydolai'r beirdd lleol i argraffu a chyhoeddi eu barddoniaeth draddodiadol. Cyfunodd Métivier enwau lleoedd lleol, enwau lleol ar adar ac anifeiliaid lleol, dywediadau traddodiadol a darnau o farddoniaeth yr oesoedd canol i greu ei Rimes Guernesiaises (1831). Ystyriwyd Denys Corbet (1826-1910) yn "Fardd Olaf" y Guernésiais ac fe gyhoeddodd nifer o gerddi yn ei famiaith yn ystod ei oes ym mhapur newydd yr ynys ac yn breifat.
Ysgrifennodd Métivier, Que l'lingo seit bouan ou mauvais / J'pâlron coum'nou pâlait autefais (boed y "lingo"'n slic neu'n slac, rwy'n mynd i siarad fel rôn ni'n arfer siarad).
Y geiriadur mwyaf diweddar o'r Guernésiais, Dictiounnaire Angllais-guernesiais. Société guernesiaise. 1967.CS1 maint: ref=harv (link) (argraffiad diwygiedig a gyhoeddwyd 1982), oedd gwaith mawr Marie de Garis (1910-2010). Ym 1999, urddwyd de Garis yn aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gwaith.