Gwas neidr llygadwyrdd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Pryfyn yn nheulu'r Aeshna caerulea' yw Gwas neidr llygadwyrdd (ll. gweision neidr llygadwyrdd; Lladin: Aeshna isosceles; Saesneg: Norfolk Hawker) sy'n perthyn i Urdd yr Odonata - sef Urdd y Gweision neidr a'r nod.
Ffeithiau sydyn gwas neidr llygadwyrdd Aeshna isosceles, Statws cadwraeth ...
gwas neidr llygadwyrdd Aeshna isosceles | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Odonata |
Teulu: | Aeshnidae |
Genws: | Aeshna |
Rhywogaeth: | A. isoceles |
Enw deuenwol | |
Aeshna isoceles (Muller, 1767) | |
Cau
Caiff ei ddisgrifio fel un o'r 'gweision neidr' (Aeshnidae neu hawker) ac mae'n was neidr bychan sydd i'w ganfod yn Ewrop. Fe'i ceir yn bennaf o gwmpas y Môr Canoldir a thiroedd isel Gogledd Affrica.
Yng ngwledydd Prydain mae'n bryfyn eitha prin. Mae'n frown ac mae ganddo lygaid gwyrdd ac adenydd tryloyw, clir. Ar ail ran y corff ceir marc siâp triongl, sy'n rhoi iddo'i enw Lladin, gwyddonol.