HB Tórshavn
clwb pêl-droed yn ninas Tórshavn, Ynysoedd Ffaroe / From Wikipedia, the free encyclopedia
Clwb pêl-droed ar Ynysoedd Ffaröe yw Havnar Bóltfelag (HB neu HB Tórshavn). Mae'n un o'r clybiau pêl-droed hynaf a mwyaf llwyddiannus yn Ynysoedd Ffaroe. Sefydlwyd y clwb ym 1904, ac mae wedi'i leoli yn y brifddinas, Tórshavn. Mae gemau cartref yn cael eu chwarae yn y Gundadalur ac maen nhw'n cystadlu yn Uwch Gynghrair Ynysoedd Faroe. Ystyr Havnar Bóltfelag yw "Clwb Pêl-droed yr Harbwr", gyda Havn yn dod o enw tref, Tórshavn.
Ffeithiau sydyn Enw llawn, Sefydlwyd ...
Enw llawn | Havnar Bóltfelag | ||
---|---|---|---|
Sefydlwyd | 1904; 119 blynedd yn ôl (1904) | ||
Maes | Stadiwm Gundadalur, Tórshavn (sy'n dal: 5,000) | ||
Cadeirydd | Kaj Leo Johannesen | ||
Rheolwr | Jens Berthel Askou | ||
Cynghrair | Uwch Gynghrair Ynysoedd Ffaröe | ||
2023 | 3. | ||
| |||
Cau