Hanes Cymru
From Wikipedia, the free encyclopedia
Er nad yw'n wlad fawr o ran ei maint, mae hanes Cymru yn hir a diddorol. Gellid dadlau fod hanes Cymru fel gwlad, neu egin-wlad, yn dechrau yn ystod cyfnod rheolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig. Credir fod Cristnogaeth wedi ymgartrefu yng Nghymru tua diwedd y cyfnod hwnnw ac arferir galw'r cyfnod olynol yn Oes y Seintiau. Yng nghyfnod y seintiau cynnar gwelwyd newidiadau sylfaenol ym Mhrydain o dan bwysau'r goresgyniad Eingl-Sacsonaidd yn ne a dwyrain yr ynys a mewnfudo gan Wyddelod i Gymru a gorllewin yr Alban.
Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres | |
Cyfnodau | |
---|---|
Cynhanes | |
Cyfnod y Rhufeiniaid | |
Oes y Seintiau | |
Yr Oesoedd Canol | |
Yr Oesoedd Canol Cynnar | |
Oes y Tywysogion | |
Yr Oesoedd Canol Diweddar | |
Cyfnod y Tuduriaid | |
17eg ganrif | |
18fed ganrif | |
19eg ganrif | |
20fed ganrif | |
Y Rhyfel Byd Cyntaf | |
Y cyfnod rhwng y rhyfeloedd | |
Yr Ail Ryfel Byd | |
21ain ganrif | |
Teyrnasoedd | |
Deheubarth | |
Gwynedd | |
Morgannwg | |
Powys | |
Yn ôl pwnc | |
Hanes crefyddol | |
Hanes cyfansoddiadol | |
Hanes cyfreithiol | |
Hanes cymdeithasol | |
Hanes demograffig | |
Hanes economaidd | |
Hanes gwleidyddol | |
Hanes LHDT | |
Hanes milwrol | |
Hanes morwrol | |
Hanes tiriogaethol | |
Hanesyddiaeth
| |
WiciBrosiect Cymru | |
Yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, fe dyfodd nifer o freniniaethau - yng Ngwynedd, Powys, Dyfed a Deheubarth. Roedd gan y brenhinoedd hyn eu heglwysi, eu cyfreithiau a'u llysoedd eu hunain, gyda safon byw a diwylliant uchel. Erbyn yr 8g, pan godwyd Clawdd Offa, roedd tiriogaeth Cymru yn ddiffiniedig a'r Oesoedd Canol wedi dechrau. Yn sgil y goresgyniad Normanaidd newidiodd patrwm llywodraethu Cymru a dechreuodd ei harweinwyr pendefig galw eu hunain yn dywysogion yn hytrach na brenhinoedd; gelwir y cyfnod hwnnw yn "Oes y Tywysogion". Yn yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru ar ôl cwymp Llywelyn ap Gruffudd a'i frawd Dafydd ap Gruffudd, cafwyd cyfnod ansefydlog dan reolaeth coron Lloegr. Arweiniodd Owain Glyndŵr wrthryfel llwyddiannus yn erbyn y Saeson ac yn ddiweddarach enillodd Harri Tudur Frwydr Bosworth gan sefydlu cyfnod y Tuduriaid.
Un canlyniad o'r cyfnod hwnnw oedd y Deddfau Uno a roddodd Cymru yn yr un system gyfreithiol a gweinyddol â Lloegr. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad Gatholig i fod yn wlad Brotestannaidd. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol - cyfnod y Dadeni Dysg a'r Beibl Cymraeg - ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol ymneilltuol a ymledai'n gyflym yn ystod y 17eg ganrif a'r 18fed. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal, ac erbyn diwedd y 18g a dechrau'r 19eg ganrif roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd llythrennedd ac ymledai'r wasg Gymraeg. Cynyddai'r galw am Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru ac am hunanlywodraeth ac erbyn diwedd y 19g roedd mudiad Cymru Fydd ar ei anterth.
Cymysg fu ffawd y wlad yn ystod y 20fed ganrif. Ond er gwaethaf y Rhyfel Byd Cyntaf, Dirwasgiad Mawr y 1930au, yr Ail Ryfel Byd a'r dirywiad ieithyddol yn y 1970au a'r 1980au, mae Cymru heddiw yn meddu Cynulliad Cenedlaethol ac ymddengys fod yr iaith Gymraeg yn wynebu dyfodol mwy gobeithiol nag a ddychmygid cenhedlaeth yn ôl.