Hugh Myddelton
Masnachwr, peiriannydd, banciwr ac aelod o deulu Cymreig a oedd yn byw yn Llundain. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mwynwr, masnachwr, peiriannydd, banciwr ac aelod o deulu Cymreig y Myddeltons oedd Syr Hugh Myddelton (neu weithiau Middleton), barwnig 1af (1560 – 10 Rhagfyr 1631). Roedd yn frawd i Syr Thomas Myddelton, Arglwydd Faer Llundain ym 1613.
Hugh Myddelton | |
---|---|
Ganwyd | 1560 |
Bu farw | 10 Rhagfyr 1631 |
Man preswyl | Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | peiriannydd sifil, peiriannydd, gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1604-1611, Member of the 1614 Parliament, Member of the 1621-22 Parliament, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1624–5, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1625, Member of the 1626 Parliament, Member of the 1628-29 Parliament |
Tad | Richard Myddelton |
Mam | Jane Dryhurst |
Priod | Elizabeth Olmstead, Anne Collins |
Plant | William Middleton |
Ef oedd chweched mab Richard Myddelton, llywodraethwr Castell Dinbych, a aeth i Lundain i wneud ei ffortiwn.
Gweithiodd i eurof (gof aur) a llewyrchodd yn y grefft honno, cymaint nes y penodwyd ef yn Ofaint Tlysau'r Brenin, gan Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI). Fe'i gwnaed yn aldramon a chofiadur o dan siarter newydd tref Dinbych yn 1596 a chynrychiolodd y fwrdeistref yn y Senedd o 1603 hyd 1628, gan ddilyn ei dad fel AS Bwrdeistrefi Dinbych a bu yn y swydd honno tan 1628. Daeth yn ŵr cyfoethog iawn a gwnaeth y rhan fwyaf o'i arian fel masnachwr, fel gof aur ac fel prynwr a gwerthwr defnyddiau.
Chwiliodd yn aflwyddiannus am lo yn Nyffryn Clwyd ond bu'n fwy llwyddiannus gyda chynllun New River, cynllun a wireddwyd ganddo, er mwyn cyflenwi dŵr i Lundain.
Yn 1617 cymerodd brydles ar weithfeydd plwm ac arian y Mines Royal Company yn Sir Aberteifi er gwaethaf gwrthwynebiad cryf fe lwyddodd i raddau helaeth gyda'r gwaith — rhoes gwpanau o arian a gloddiwyd yn y sir i gorfforaethau Dinbych a Rhuthun a chwpan aur i bennaeth ei gangen ef ei hun o'r Myddeltoniaid yng Ngwaenynog. Ond gwrthododd dderbyn gwahoddiad Syr John Wynn o Wydir, yn 1625, i ymgymryd â'r gwaith o adennill tir oddi ar y môr yn y Traeth Mawr, gwaith tebyg i hwnnw yr oedd newydd orffen ceisio ei wneuthur (eithr heb lwyddo, a cholli ohono lawer o arian yn y fenter) yn Ynys Wyth gyda Syr Bevis Thelwall (gŵr arall o Sir Ddinbych). Gwnaethpwyd ef yn farwnig — 'y Barwnig Hugh Middleton o Ruthun, dinesydd ac eurof o Lundain' ar 19 Hydref 1622.
Bu farw ar 10 Rhagfyr 1631 yn ei gartref yn Cheapside, Llundain, gan adael 10 mab a 6 merch. Fe'i claddwyd yn eglwys St. Matthew Friday Street, Llundain.