Hugo Chávez
From Wikipedia, the free encyclopedia
| lleoliad_geni=Sabaneta, Barinas, Feneswela
| dyddiad_marw=5 Mawrth 2013(2013-03-05) (58 oed)
| plaid=Plaid Sosialaidd Unedig Feneswela
| priod=Nancy Colmenares (ysg.)
Marisabel Chávez (ysg.)
|}}
Arlywydd Feneswela o 1999 hyd 2013 oedd Hugo Rafael Chávez Frías (IPA: 'uɣo rafa'el 'tʃaβes 'fɾias (28 Gorffennaf 1954 – 5 Mawrth 2013). Fel arweinydd y Chwyldro Bolifariaidd hybodd ei weledigaeth o sosialaeth ddemocrataidd drwy ddiwygio cymdeithasol ac roedd yn feirniadol iawn o bolisïau tramor yr Unol Daleithiau.
Hugo Chávez | |
---|---|
Ganwyd | Hugo Rafael Chávez Frías 28 Gorffennaf 1954 Sabaneta |
Bu farw | 5 Mawrth 2013 o canser colorectaidd Hospital Militar de Caracas |
Man preswyl | La Casona |
Dinasyddiaeth | Feneswela |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog milwrol |
Swydd | President of Venezuela, arweinydd plaid wleidyddol |
Taldra | 173 centimetr |
Plaid Wleidyddol | Revolutionary Bolivarian Movement-200, Fifth Republic Movement, United Socialist Party of Venezuela |
Tad | Hugo de los Reyes Chávez |
Mam | Elena Frías de Chávez |
Priod | Nancy Colmenares, Marisabel Rodríguez de Chávez |
Plant | María Gabriela Chávez |
Perthnasau | Asdrúbal Chávez |
Gwobr/au | Gwobr hawliau Dynol Al-Gaddafi, Urdd Francisco Morazán, Uwch Goler Urdd Tywysog Harri, Urdd dros ryddid, Urdd Francisco de Miranda, Order of the Star of Carabobo, Urdd José Martí, Urdd Carlos Manuel de Céspedes, Ribbon of the Order of the Republic of Serbia, Urdd Umayyad, Uatsamonga Order, Order of the Friendship of Peoples, Gwobr y Blaned Las, honorary doctor of the University of International Business and Economics, Order of Augusto César Sandino, Medal of the Oriental Republic of Uruguay, Urdd Croes y De, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Urdd Gwladwriaeth Serbia, Gorchymyn Anrhydedd |
Gwefan | http://www.chavez.org.ve, http://todochavez.gob.ve |
Safle | pitcher |
llofnod | |
Dywedir iddo sefydlu mudiad asgell-chwith o'r enw Fifth Republic Movement wedi methiant y coup i ddiorseddu'r Arlywydd Carlos Andrés Pérez yn 1992. Cafodd ei ethol yn Arlywydd ei wlad yn 1998 gyda maniffesto yn addo cynorthwyo'r tlodion. Cafodd ei ail-ethol i'r swydd yn 2000, yn 2006 ac yn 2012. O fewn ei wlad roedd yn frwdfrydig iawn dros datblygiadau economaidd amgen; gan ganolbwyntio hefyd ar estyn llaw i wledydd eraill yn Ne America.
Roedd yn ddyn oedd yn barod iawn i ddweud ei farn, gan greu gelynion a chyfeillion gyda phob brawddeg, bron. Hona Llywodraeth yr Unol Daleithiau ei fod yn fygythiad i systemau democrataidd America Ladin.[1]