Jacques Derrida
From Wikipedia, the free encyclopedia
Athronydd oedd Jacques Derrida (enw genedigol Jackie Élie Derrida; 15 Gorffennaf 1930 – 9 Hydref 2004). Er y caiff ei ystyried yn Ffrancwr, cafodd ei eni yn Algeria. Fe'i adnabyddir yn bennaf am ei waith yn y maes semiotig, gan iddo ddatblygu ffurf ddadansoddol semiotaidd, dad-adeileddaeth.(déconstruction). Mae ymysg ffigyrau pwysicaf ôl-adeileddaeth ac athroniaeth ôl-fodern.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Jacques Derrida | |
---|---|
Ganwyd | Jacques Derrida 15 Gorffennaf 1930 El Biar |
Bu farw | 8 Hydref 2004 5ed arrondissement, Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | athronydd, beirniad llenyddol, academydd, ysgrifennwr |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Martin Heidegger, Platon, James Joyce, Friedrich Nietzsche, Ferdinand de Saussure, Emmanuel Levinas, Sigmund Freud, Edmund Husserl, Jean-Jacques Rousseau, Karl Marx, Claude Lévi-Strauss, Georg Hegel, Georges Bataille, Louis Marin, Louis Althusser, Michel Foucault, Walter Benjamin, Antonin Artaud, Ludwig Wittgenstein |
Mudiad | post-structuralism, deconstruction |
Priod | Marguerite Aucouturier |
Plant | Daniel Agacinski, Pierre Alferi |
Gwobr/au | Gwobr Theodor W. Adorno, Harry Oppenheimer Fellowship Award |
Cau
Ar hyd ei yrfa, cyhoeddodd mwy na 40 o lyfrau, ynghŷd â channoedd o draethodau a darlithoedd cyhoeddus. Cafodd ddylanwad sylweddol ar y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol, nid yn unig mewn meysydd fel athroniaeth a llenyddiaeth, ond hefyd y gyfraith, cymdeithaseg, theori wleiyddol, ffeministiaeth a seicdreiddiad.