Kurrent
Ffont ysgrifennu ac argraffu Almaeneg o'r teulu Fraktur a ddefnyddwyd yn swyddogol o'r 16g - 1941. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffont, neu sgript, llawysgrifen ac argraffu yw Kurrent a ddaeth i'w hadnabod fel y ffurf Almaenig o ysgrifennu.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Iaith ...
Enghraifft o'r canlynol | teip, Llawysgrifen, Ysgrifen redeg, bicameral script, gwyddor, sgript naturiol |
---|---|
Iaith | Almaeneg |
Daeth i ben | Ionawr 1941 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Ffurf o ysgrifen redeg yw Kurrent. Daw'r enw o'r Lladin currere ("redeg"). Adnebir y ffont weithiau fel Kurrentschrift neu Alte Deutsche Schrift ("hen sgript Almaeneg"). Defnyddiwyd addasiadau o'r Kurrent o'r Oesoedd Canol hyd at 1941 pan penderfynwyd y Natsiaid cael gwared arni a defnyddio'r sgript Ladin, neu Sans-serif, o'i roi enw arall arni. Lladin neu Antiqua yw'r sgript a ddefnyddwyd ar draws y rhan fwyaf o Ewrop gan gynnwys Gwledydd Prydain.
Yr addasiad, neu esblygiad olaf ar y ffont Kurrent oedd ffont Sütterlin, neu'r Sütterlinschrift yn Almaeneg.