Môr Caspia
môr rhwng Ewrop ac Asia / From Wikipedia, the free encyclopedia
Môr bychan neu lyn enfawr, wedi ei amgylchynu gan dir, yw Môr Caspia (Perseg: دریای خزر Daryā-ye Khazar, Rwseg: Каспийское море). Saif mewn basn caeedig, hynny yw heb allanfa (neu 'fala') i'r dwr lifo ohono. Mae'n gorwedd rhwng Ewrop ac Asia; i'r dwyrain o'r Cawcasws, i'r gorllewin o stepdir llydan Canolbarth Asia, i'r de o wastadeddau ffrwythlon De Rwsia yn Nwyrain Ewrop, ac i'r gogledd o Lwyfandir mynyddig Iran yng De-orllewin Asia. Mewn geiriau eraill, ceir pum gwlad o'i amgylch: Rwsia, Casachstan, Tyrcmenistan, Iran ac Aserbaijan. Dyma'r corff mwyaf yn y byd o ddŵr mewndirol, ond ceir gwahaniaeth barn ynghylch a ddylid ei ystyried yn llyn mwya'r byd neu'n fôr: er gwaetha'r enw, caiff Môr Caspia fel arfer ei gategoreiddio fel llyn.
Euskal Herria | |
Math | Gwlad |
---|---|
Enwyd ar ôl | Kassites |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ardal Môr Canoldir |
Gwlad | Iran, Rwsia, Casachstan, Aserbaijan, Tyrcmenistan |
Arwynebedd | 386,400 km² |
Uwch y môr | −28 metr |
Cyfesurynnau | 42°N 50.5°E |
Dalgylch | 3,500,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,200 cilometr |
Mae ganddo arwynebedd o 386,400 cilometr sgwâr (ac eithrio'r morlyn hallt iawn o Garabogazköl), cyfaint o 78,700 cilometr ciwbig, a halltedd o oddeutu 1.2% (12 g / l), tua thraean halltedd dŵr y môr ar gyfartaledd.[1] Mae hyd y môr yn ymestyn bron i 1,200 cilomedr (750 milltir) o'r gogledd i'r de, gyda lled cyfartalog o 320 km (200 milltir).
Y prif afonydd sy'n llifo iddo yw afon Folga, afon Ural, afon Terek ac afon Koera. Nid oes afon yn llifo allan ohono, felly mae'r dŵr yn hallt. Yn 2004, roedd lefel y dŵr 28 metr (92 troedfedd) yn is na lefel y môr. Mae lefel y dŵr ym Môr Caspia ei hun wedi gostwng yn sylweddol yn y degawdau diwethaf, oherwydd cynnydd yn yr anweddiad, lleihad yn y glawogydd ac effaith adeiladu argaeau i gymryd dŵr o afon Folga. Dechreuodd y cylch olaf o lefel y môr gyda chwymp o 3m (10 tr) rhwng 1929 a 1977, ac yna godiad o 3m (10 tr) rhwng 1977 a 1995. Ers hynny mae osgiliadau llai wedi digwydd.[2] Amcangyfrifwyd mewn astudiaeth gan Academi Gwyddorau Azerbaijan fod lefel y môr yn gostwng mwy na chwe centimetr y flwyddyn oherwydd anweddiad cynyddol oherwydd y codiad mewn tymheredd a achosir gan newid hinsawdd.[3]
Ei brif fewnlif o ddŵr croyw yw afon hiraf Ewrop, sef y Volga, sy'n dod i mewn i'r llyn yn y pen gogleddol, bas. Mae dau fasn dwfn yn ffurfio ei barthau canolog a deheuol, sy'n arwain at wahaniaethau llorweddol mewn tymheredd, halltedd ac ecoleg. Mae gwely'r môr yn y de yn cyrraedd 1,023 m (3,356 tr - tua maint yr Wyddfa) o dan lefel y môr, sef yr ail isaf ar y Ddaear ar ôl Llyn Baikal (−1,180 m neu −3,870 tr). Cofnododd trigolion hynafol ei arfordir fod Môr Caspia fel cefnfor, yn ôl pob tebyg oherwydd ei halltrwydd a'i faint enfawr.
Mae Môr Caspia yn gartref i ystod eang o rywogaethau ac efallai ei fod yn fwyaf adnabyddus am ei ddiwydiannau cafiâr ac olew. Niweidiwyd ecoleg y llyn hwn gan lygredd o'r diwydiant olew hyn, ac i raddau llai, gan argaeau ar yr afonydd.