M48
From Wikipedia, the free encyclopedia
Traffordd sy'n cysylltu Sir Fynwy yng Nghymru a Swydd Gaerloyw yn Lloegr yw'r M48.
Ffeithiau sydyn Math, Cysylltir gyda ...
Math | traffordd |
---|---|
Cysylltir gyda | m4 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.6179°N 2.6927°W |
Hyd | 12 milltir |
Cau
Traffordd gymharol fyr yw'r M48. Mae'n gadael traffordd yr M4 gerllaw Magwyr, ac yn arwain tua'r dwyrain i'r gogledd o'r M4. Ychydig i'r de o dref Cas-gwent, mae'n croesi'r ffîn i Loegr dros Afon Gwy, yna'n croesi Afon Hafren ar draws Pont Hafren, y bont wreiddiol. Mae'r M4 yn croesi ymhellach i'r de, ar hyd Ail Groesfan Hafren. Ceir tollfa yma, ond dim ond wrth deithio tua'r gorllewin. Ymuna a'r M4 eto gerllaw Olveston yn Swydd Gaerloyw.
Adeiladwyd y draffordd yma fel rhan o'r M4 yn 1966. Cafodd y rhif M48 yn 1996, pan agorwyd rhan newydd o'r M4 dros Ail Groesfan Hafren.