Natalie Portman
cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Jeriwsalem yn 1981 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Natalie Portman (Hebraeg: נטלי פורטמן; ganed Neta-Lee Hershlag 9 Mehefin 1981) yn actores Americanaidd-Iddewig. Dechreuodd Portman ei gyrfa actio yn ystod y 1990au, gan wrthod y cyfle i fod yn fodel pan yn blentyn er mwyn bod yn actores. Cafodd ei rôl gyntaf yn y ffilm annibynnol Léon (1994). Daeth i adnabyddiaeth pan gafodd ran Padmé Amidala yn y ffilmiau Star Wars. Dywedodd Portman unwaith y byddai'n well ganddi fod yn ddeallus nag un seren ym myd ffilmiau er iddi gwblhau ei gradd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Harvard tra'r oedd yn gweithio ar y ffilmiau Star Wars.
Natalie Portman | |
---|---|
Ganwyd | Natalie Herschlag 9 Mehefin 1981 Jeriwsalem |
Man preswyl | Washington, Connecticut, Jericho, Lowell House, Paris, Los Angeles, Jeriwsalem |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Israel |
Addysg | gradd baglor |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, actor llwyfan, actor teledu, actor |
Adnabyddus am | Star Wars prequel trilogy, Léon, Black Swan |
Taldra | 165 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Priod | Benjamin Millepied |
Plant | Aleph Millepied, Amalia Millepied |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - Drama ar Ffilm, Screen Actors Guild Award for Outstanding Performance by a Female Actor in a Leading Role, Gwobr yr Ysbryd Annibynnol i'r Brif Actores, Golden Globes, Gwobr 'FiLM iNDEPENDENT', Gwobr Saturn, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn |
llofnod | |
Yn 2001, perfformiodd Portman mewn cynhyrchiad Theatr Gyhoeddus Dinas Efrog Newydd o "The Seagull" gan Chekhov, pan berfformiodd gyda Meryl Streep, Kevin Kline, a Philip Seymour Hoffman. Yn 2005, derbyniodd Portman Wobr Golden Globe fel yr Actores Gefnogol Orau yn y ddrama Closer.